Llŷr Titus
Awdur a dramodydd, myfyriwr PhD yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor ac un o sylfaenwyr Cwmni'r Tebot, cwmni theatr cymunedol ym Mhen Llŷn.
Elan Grug Muse
Bardd, beiciwr, blogiwr. Myfyriwr ymchwil yn adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Ar Ddisberod, yn 2017.
Iestyn Tyne
Llenor, cerddor a ac artist o Ben Llŷn yn wreiddiol. Enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd a chadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2016. Cyhoeddwyd ei ail gyfrol o gerddi, ar adain, yn 2018. Mae bellach yn byw yng Nghaernarfon.
Esyllt Lewis
Wedi cwblhau cwrs sylfaen mewn Celf yng Ngholeg Celf Abertawe, graddiodd Esyllt o Brifysgol Caerdydd y llynedd wedi iddi astudio gradd mewn Cymraeg ac Athroniaeth. Mae'r cysylltiadau y gellir eu gwneud rhwng y ddau bwnc hynny o ddiddordeb mawr iddi, ac fe hoffai weld rhagor o drafodaeth am Athroniaeth yn y Gymraeg. Ar hyn o bryd mae hi’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.