Bardd o Ben-y-groes yw Karen Owen, sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith ac wedi perfformio ledled y byd. Enillodd Wobr Goffa Llwyd o'r Bryn am lefaru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018. Daeth yn olygydd cylchgrawn Golwg pan yn 26 oed, ac yna'n gynhyrchydd rhaglenni crefydd BBC Cymru; yn ohebydd i bapur newydd Y Cymro; ac yn olygydd gwasanaeth newyddion ar-lein golwg360. Yn 2017 cymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru. Mae’n feistr ar y canu caeth ac yn athro barddol, ac yn 2018 teithiodd ei sioe,7 Llais, o amgylch Cymru.
Cynganeddu Course
This is a Welsh-language course looking at the bardic craft of the cynghanedd – the intricate and complex art of writing strict metre poetry.
Tutors

Karen Owen

Peredur Lynch
Peredur Lynch oedd yr ieuengaf erioed i gipio cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Maesteg yn 1979. Bu'n gyfranogwr amlwg yn ymrysonau'r Babell Lên yn y degawdau a ddilynodd, cyn ymroi i'w yrfa academaidd lle daeth yn awdurdod ar y traddodiad barddol Canoloesol, ac yn ddarlithydd huawdl a phoblogaidd wrth dderbyn cadair Athro yn yr Ysgol Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Yn 2017 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Caeth a Rhydd (Gwasg Carreg Gwalch) a lwyddodd i gipio Gwobr Barn y Bobl golwg360yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2018.